Cyflwyniad


Rwyf yn enedigol o Gwmllinau pentref bach rhyw 9 milltir o Fachynlleth,.Mynychais Ysgol gynnradd Glantwymyn,ac yna Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi,gan ddlyn yn Coleg Powys y Drenewydd.

Ar ol gweithio mewn gwesty y Brigands Inn yn Mallwyd am 13 o flynyddoedd yn coginio,penderfynais i ymgartrefi yn Aberhosan ar Fferm Bacheiddon gyda fy mhartner Aneirin sydd yn ffermio, ac erbyn hyn y plant Hanna a Huw Eiddon.

Roeddwn yn aelod o glwb ffermwyr ifanc Bro Ddyfi lle cefais fy mlas cynta ar gystadlu ar coginio,ac yna 16 mlynedd yn ol cael gwobr ar cystadleuaeth menter cymru gyda y busnes Bwyd Bethan.

Rwyf wedi bod yn ffodus o gael adnebyddiaeth drwy Gymru gyfan gan ymddangos ar raglen Ffermio,Y Ffair Aeaf, Build a new life in the country a rhaglennu radio.

Rydym erbyn hyn wedi cymeryd drosodd y ffrem oddi ar rhieni Aneirin rhyw 1,000 o aceri ac yn brysur gwella y stoc sef defaid gwartheg beef, a hefyd datblygu Bwyd Bethan sydd yn mynd o nerth i nerth.

Rwyf hefyd yn gymru cymraeg,ac yn gwybod am bwysigrwydd o hybu ein cynnyrch o gymru,rwyf yn darparu bwyd iach o safon uchel ac yn ceisio lle yn bosib i wneud cymaint o fy mwyd yn fwyd cartre,dyna rwyf yn teimlo sydd wedi gwnud fy nghwmni i yn wahanol i gwmniau eraill.